P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dan McKenna, ar ôl casglu cyfanswm o 68 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Yn Lloegr heddiw, cyhoeddwyd y bwriad i ailgychwyn chwaraeon tîm i blant o Fawrth 29ain 2021 ymlaen (yn ddibynnol ar bedwar amod y mae'n rhaid eu bodloni wrth bob cam o lacio’r cyfyngiadau symud). Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cymru wedi sôn am ddyddiad pan all chwaraeon tîm ddychwelyd yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae plant wedi gorfod aros gartref ers Rhagfyr 20fed, a chyfyngedig fy eu mynediad at ymarfer corff neu ryngweithio gyda’u ffrindiau a’u cyd-aelodau ar y tîm. Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn gyda llai o gyfle i fod yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf, ac iechyd corfforol a meddyliol o dan straen. Mae plant wedi cael amser anodd iawn yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, gyda tharfu difrifol ar eu bywydau bob dydd. Wrth i ddisgyblion ddychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion, mae’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth ar y cyd â hynny i gael plant i gadw’n actif eto, cyn gynted â phosibl.

 

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater hwn yn yr adolygiad 3 wythnos nesaf ar Fawrth 12fed 2021.

 

Cyhoeddwch fap o’r ffordd ymlaen yn debyg i Loegr – sy'n cynnig dyddiad(au) clir ac amlwg – o ran ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yng Nghymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Sir Drefaldwyn

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru